Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Gymdeithas yn croesawu’n frwd Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod Genedlaethol a’i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 24 Hydref 2013.  Sefydlwyd y Grŵp yn 2012 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Leighton Andrews AC, i ystyried a ddylid moderneiddio’r Eisteddfod.

Bu Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys y materion canlynol:

  • Beth yw’r manteision a’r anfanteision o adleoli’r Eisteddfod bob blwyddyn rhwng De a Gogledd Cymru ac i leoliadau newydd bob tro? Beth fyddai manteision ac anfanteision modelau eraill? A ddylid dilyn cylch pedair blynedd gan leoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol, un yn y Gogledd-orllewin a’r llall yn y Gorllewin, a theithio rhwng y De a’r Gogledd am yn ail ar gyfer y ddwy flynedd arall?
  • A allai lleoliadau parhaol i’r Eisteddfod ysgogi’r ardaloedd hynny yn economaidd, gan hybu twristiaeth ddiwylliannol, ac adlewyrchu y celfyddydau yng Nghymru ar eu gorau?

Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar waith y Grŵp, fu’r Gymdeithas ddadlau’n gryf o blaid i’r Eisteddfod barhau i symud i ardal wahanol o’r wlad bob blwyddyn, gan ddod i’r casgliad:

 “…ofnwn y gallai penderfyniad i gyfyngu’r Eisteddfod i ddau safle parhaol leihau ei dylanwad a’i chyfraniad yn sylweddol ac arwain at niwed anadferadwy”.

Mae’r Gymdeithas felly yn rhoi croeso arbennig i gasgliad unfrydol y Grŵp y dylai’r Eisteddfod “barhau i deithio i ran wahanol o Gymru yn flynyddol”.