Dydd Mercher / Wednesday

10.00 – 11.30 Meddwl am iaith:  Iaith a Gymdeithas / Thinking about Language: Language and Society 

Siaradwyr / Speakers:  Huw Lewis, David Boucher, Mererid Puw Davies
Yn y Gadair/ Chair: Colin Williams 


12.00 – 12.45
Diet Ieithyddol Iach: Ailosod ieithoedd mewn addysg a dysgu gydol oes 

Healthy Linguistic Diet: Repositioning languages in education and life-long learning 

Dina Mehmedbegovic-Smith

Yn aml iawn, mae addysgwyr sy’n gweithio mewn cyd-destunau amrywiol ac sy’n edrych i hyrwyddo dysgu iaith, yn ogystal â chynnal ieithoedd y cartref, yn wynebu gwrthwynebiad a negyddoldeb a gyfeirir tuag at ystod eang o ieithoedd gan arwain at golli iaith ar lefel unigol a thranc iaith ar lefel gymdeithasol. Ar y llaw arall, ystyrir bod nifer fechan o ieithoedd yn rhai statws uchel, lle mae galw i’w hastudio a’u siarad. Gan dynnu oddi ar ymchwil a wnaed yn Llundain a Chaerdydd, bydd y sesiwn hon yn ystyried polisi ac ymarfer heb hierarchaeth fel amod angenrheidiol ar gyfer cynaliadwyedd ieithoedd mewn perygl.

Mae ail ran y sesiwn hon yn cyflwyno cysyniad: ‘Diet Ieithyddol Iach’ ac yn gwneud cynnig ar sail y cysyniad hwn am ddull newydd, seiliedig ar wybyddiaeth o droi at bolisïau ac arferion mewn addysg a fyddai’n helpu dileu hierarchaethau ieithoedd. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf o niwrowyddoniaeth wybyddol, bydd Dina’n dadlau y byddai’r holl randdeiliaid mewn addysg a’r gymdeithas ehangach yn elwa ar sifft mewn agweddau a dull o droi at ddwyieithrwydd a dysgu ieithoedd eraill. Mae’r manteision ar lefel unigol a chymdeithasol mor arwyddocaol, nid yn unig y mae gweithredu ar y dystiolaeth hon yn rheidrwydd addysgol ond mae’n rheidrwydd o ran iechyd a moesoldeb hefyd.

Educators working in diverse contexts and looking to promote language learning, as well as maintaining home languages, often encounter resistance and negativity directed towards a wide range of languages resulting in language loss at the individual level and language death at a societal level. On the other hand, a small number of languages are regarded as high-status languages, in demand to study and speak. Drawing on research conducted in London and Cardiff, this session will consider hierarchy-free policy and practice as a necessary condition for sustainability of endangered languages. 

The second part of this session introduces the concept of: ‘Healthy Linguistic Diet’ and makes a proposal based on this concept for a new, cognitive-based approach to policy and practice in education which would help eradicate language hierarchies. Using the latest research evidence from cognitive neuroscience, Dina will argue that all stakeholders in education and wider society would benefit from a shift in attitudes and approach to bilingualism and learning other languages. The benefits at the individual and societal level are so significant that acting on this evidence is not only an educational, but also a health and moral imperative too.  


14.00 – 15.30

Un meddwl,  mwy nag un iaith / One mind, more than one language

Siaradwyr / Speakers: Jon Andoni Duñabeitia  & Guillaume Thierry 
Yn y Gadair/ Chair: Enlli Thomas

Sut mae amlieithrwydd yn effeithio ar yr ymennydd? Pa fuddion all ddod yn ei sgil? Ymunwch â’r sesiwn hon i ddarganfod mwy.  

How does multilingualism affect the brain? What benefits can it bring? Join this session to find out. 


18.00- 19.00
Iaith a chreadigrwydd / Language and creativity

Siaradwyr / Speakers: Gwenno Saunders, Aneirin Karadog

Yn y Gadair/ Chair: Catrin Beard

A oes gan bobl hunaniaeth wahanol mewn ieithoedd gwahanol? Sut mae hynny’n dylanwadu ar greadigrwydd pobl?

Do people have a different identity in different languages? How does that influence people’s creativity?