Ewrop Gymdeithasol: Diffeithwch neu Dir Ffrwythlon?

Ewrop Gymdeithasol: Diffeithwch neu Dir Ffrwythlon?

 – Trafodaeth

 

Dydd Mercher 7 Mawrth 2012, 17.00-19.30

Ystafelloedd Pwyllgor Adeilad Morgannwg

Prifysgol Caerdydd, Caerdydd

 

   

Mae i’r argyfwng economaidd ac ariannol sydd wedi llyncu’r Undeb Ewropeaidd a’i Haelod Wladwriaethau dros y deunaw mis diwethaf ganlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol pellgyrhaeddol hefyd. Mae’r argyfwng dyled sy’n gwaethygu wedi gorfodi llywodraethau i fabwysiadu mesurau llymder a diwygiadau economaidd caled, gan sbarduno aflonyddwch cymdeithasol a phrotestiadau mewn nifer o Wladwriaethau Ewropeaidd, Groeg a Hwngari’n arbennig.  Mae’r  canfyddiad fod y diwygiadau hyn wedi eu gorfodi ar Wladwriaethau gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn her sylweddol i gyfreithlondeb integreiddiad Ewropeaidd. Er i’r Comisiwn Ewropeaidd bwysleisio pwysigrwydd cydbwyso mesurau llymder gyda strategaethau i gynhyrchu twf a chreu swyddi, mae pryder cynyddol bod yr agenda cymdeithasol o fewn Ewrop yn cael ei aberthu yn enw disgyblaeth gyllidol. Daw’r drafodaeth hon â siaradwyr o Gymru, y DU ac Ewrop at ei gilydd i ymchwilio goblygiadau’r heriau hyn i ddyfodol Ewrop, y DU a Chymru a’r opsiynau strategol posibl y gall llywodraethau’r DU a Chymru eu hwynebu yn y dyfodol.

 

Yn cymryd rhan yn  y Drafodaeth:

Dr Nick Parsons, Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd)

Mr Neil Carberry, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain

Mr Egbert Holthuis, Y Comisiwn Ewropeaidd

Dr Owen Parker, Prifysgol Warwick

Dr Philippe Pochet, Ffederasiwn Undebau Llafur Ewropeaidd

Yr Athro Daniel Wincott, Prifysgol Caerdydd

Mr Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a

Rhaglenni Ewropeaidd Llywodraeth Cymru

 

Ceir taflen am y trafodaeth bwrdd yma.

 

GWYBODAETH GOFRESTRU

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cofrestrwch yn gynnar gan y bydd y llefydd yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Ebostiwch euros-pgr@Cardiff.ac.uk i gofrestru erbyn 2 Mawrth 2012. I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hanner diwrnod cysylltwch ag Ian Stafford (Swyddog Ymchwil): staffordim@cardiff.ac.uk neu ar y ffôn: 029 20 870 325.

 

Mae Adeilad Morgannwg ym Mharc Cathays I gael gwybodaeth am deithio, ewch i:  http://www.cardiff.ac.uk/locations/maps/index.html