Dr. Hayley Young

Mae Dr. Hayley Young yn ennill Medal Dillwyn 2022 am ei hymchwil i fwydydd sy’n cefnogi hwyliau a gwybyddiaeth.

Mae Dr. Young yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn archwilio datblygu bwydydd sy’n cynorthwyo hwyliau a gwybyddiaeth, gyda goblygiadau ar gyfer sut mae plant yn dysgu a sut mae’r cof yn cael ei effeithio wrth i ni heneiddio. Mae awdurdodau Cymru a ledled y byd yn gofyn am ei chyngor. Darllenwch fwy am waith Dr. Young.