Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ethol Syr Emyr Jones Parry yn Llywydd nesaf

Sir Emyr Jones Parry

 

Y cyn-ddiplomydd, Syr Emyr Jones Parry GCMG FInstP FLSW yw Darpar Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC). Bydd ei dymor o dair blynedd yn swydd y Llywydd yn cychwyn ar 14 Mai 2014.  Mae’r penodiad yn dilyn pleidlais o holl Gymrodyr y Gymdeithas a arweiniodd at ymateb ysgubol o blaid ei ethol.

Ymunodd Syr Emyr â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym 1973 a chafodd yrfa yng Ngwasanaeth Llysgenhadol EM.  Dros gyfnod ei yrfa o 34 o flynyddoedd bu’n arbenigo mewn diplomyddiaeth amlochrog a materion yr Undeb Ewropeaidd.  Mae’n fwyaf adnabyddus am ei swydd ddiplomyddol olaf, sef Llysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd lle bu’n cynrychioli’r DU am dros bedair blynedd ar y Cyngor Diogelwch (2003 – 2007).  Bu’n gadeirydd y Cyngor Diogelwch am bedwar tymor gan gyd-drafod dros 250 o Benderfyniadau’r Cyngor Diogelwch.

Yn gynharach yn ystod ei yrfa ddiplomyddol, gwasanaethodd Syr Emyr fel Cyfarwyddwr y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, gyda chyfrifoldeb am bolisi ar yr Undeb Ewropeaidd, a bu’n gwasanaethu fel rhan o dîm y Llywyddiaeth am bump o blith chwe chyfnod cyntaf y DU yn Llywyddu’r Gymuned Ewropeaidd a’r Undeb Ewropeaidd.  Rhwng 2001 a 2003 ef oedd Cynrychiolydd Parhaol y DU ar Cyngor Gogledd yr Iwerydd ym Mrwsel.

Cyn ymgymryd â’i yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol, roedd Syr Emyr yn ffisegwr, ac enillodd ei radd Baglor a Diploma Ôl-raddedig mewn Grisialograffaeith yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol.  Wedyn, symudodd i Brifysgol Caergrawnt (Coleg y Santes Catharine), gan weithio yn Labordy Cavendish, ac ennill gradd PhD mewn Ffiseg Polymer.  Mae’n Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.

 Bydd Syr Emyr yn olynu Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE PLSW FRS, Llywydd Cyntaf y Gymdeithas ers ei lansio yn 2010.  Dan arweiniad Syr John, mae’r Gymdeithas wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ei sefydlu ei hun yn gorff sefydlog a chynaliadwy a gydnabyddir fel Cynrychiolydd dysg Cymru yn rhyngwladol a hefyd fel ffynhonnell o sylwadau a chyngor awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol am faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

Wrth gynnig sylwadau ar yr etholiad, dywedodd Syr John: “Rwyf wrth fy modd fod Syr Emyr Jones Parry wedi ei ethol yn olynydd i mi.  Bydd ei broffil cyhoeddus a’i brofiad eang o fudd mawr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.”

Ganwyd Syr Emyr, sy’n Gymro Cymraeg, yn Sir Gaerfyrddin ym 1947, a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.  Ers iddo ymddeol o’r Gwasanaeth Llysgenhadol yn 2007, nod Syr Emyr fu rhoi rhywbeth yn ôl i’r wlad a’i ffurfiodd.  Bu’n Gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan a adroddodd ym mis Tachwedd 2009 ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.  Ers 2008, mae wedi gwasanaethu fel Llywydd Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd ei Chyngor.  Mae hefyd yn Gadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru, Llywydd Anrhydeddus Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chadeirydd REDRESS, Corff Anllywodraethol sy’n ymgyrchu yn erbyn arteithio.

Etholwyd Syr Emyr yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2013.  Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg y Santes Catharine, Caergrawnt,  a dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Gyfraith er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Dywedodd Syr Emyr:  “Mae’n fraint fawr cael ymgymryd â’r rôl hon, ac yn arbennig cael dilyn Syr John Cadogan sydd wedi gwneud cymaint o gyfraniad at sefydlu’r Gymdeithas Ddysgedig.  Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i adeiladu ar y gwaith hwnnw ac ychwanegu at y gydnabyddiaeth i ysgolheictod Cymru.”

 

Am fwy o wybodaeth am ethol y Llywydd, cysylltwch â Phrif Weithredwr y Gymdeithas, Dr Lynn Williams, ar 029 2037 6951.