Cyflwyno Medal y Gymdeithas y Cymmrodorion i’r Athro Emeritws R Geraint Gruffydd FLSW FBA

 

Mae Medal y Cymmrodorion, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 1883, yn gydnabyddiaeth ffurfiol o’r cyfraniad disglair y mae sawl unigolyn wedi ei wneud tuag at Gymru mewn amryw o ffyrdd. Y mae arfbais ac arwyddair y Gymdeithas, sef Cared doeth yr encilion, ar flaen pob medal, tra bod y geiriau Cymraeg Cymru a phob peth mawr a doeth a sanctaidd yn ymddangos ar y cefn. 

Mewn defod arbennig (sydd wedi ei threfnu ar y cyd gyda Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru) fydd yn digwydd yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2014 am 2.00pm, bydd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr presennol y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, yn cyflwynor fedal ar ran y Gymdeithas ir Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd. Yn ystod ei yrfa daliodd dair swydd o bwys, sef Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1970 a 1979, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1980 a 1985 ac yna Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd tan 1993.

Maer Athro Gruffydd yn ysgolhaig iaith a llenyddiaeth Gymraeg a enillodd raddau o Brifysgol Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen ac fe fun aelod or staff yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor tan 1970. Mae ei waith cyhoeddedig yn ymwneud ag ystod eang o bynciau o bob cyfnod o lenyddiaeth Gymraeg, gan ddechrau â’i ddadansoddiad or farddoniaeth Gymraeg cynharaf, yn enwedig gwaith Dafydd ap Gwilym, hyd at waith yr emynydd Methodistaidd William Williams Pantycelyn a sawl awdur arall or ugeinfed ganrif, yn eu plith Saunders Lewis.   Fel golygydd testunau barddoniaeth Gymraeg, gweithredodd fel golygydd cyffredinol Cyfres Beirdd y Tywysogion a chyfrannodd at amryw o gyfrolau yn y gyfres honno ac yng nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.

Agorodd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ei drysau am y tro cyntaf yn 1985 gydar Athro Gruffydd yn Gyfarwyddwr arni, ac ymunodd pump aelod arall o staff â’i dîm. Fel golygydd cyffredinol, ef oedd yn gyfrifol am brosiect cyntaf y ganolfan, cyfres Beirdd y Tywysogion, a gyhoeddwyd mewn saith cyfrol a ymddangosodd wedi iddo ymddeol yn 1993. Maer cyfrolaun cynnwys golygiadau or holl gerddi sydd wedi goroesi or deuddegfed ganrif ar drydedd ganrif ar ddeg ac maent yn cynnig llawer o wybodaeth am ddatblygiad iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod hwn.  

Fei etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1991 ac ers ei ymddeoliad ffurfiol yn 1993 parhaodd i wneud cyfraniad sylweddol i  fywyd academaidd Cymru. Bun Lywydd y Gyngres Geltaidd Ryngwladol am ddeng mlynedd ac yn Is-Lywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ym 1999 daeth yn olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru ac yn fwy diweddar fei penodwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Cyflwynir y Fedal ir Athro Gruffydd er mwyn cydnabod ei gyfraniad nodedig i ddysg ac ysgolheictod yng Nghymru. Bydd y geiriau a ganlyn yn cael eu hysgythru ar hyd ymyl y fedal:

 Cyflwynedig ir Athro R. Geraint Gruffydd FBA am ei gyfraniad nodedig i ddysg ac ysgolheictod ac i Gymru

Am fanylion pellach:  Peter Jeffreys, Ysgrifennydd Anrhydeddus, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

 Ffôn: 01582  832971              secretary@cymmrodorion.org