‘Delivering the Olympics’ The 54th William Menelaus Memorial Lecture

54fed Darlith Goffa William Menelaus SWIEET2007

 Mewn Cydweithrediad â

  Chymdeithas Ddysgedig Cymru 

Traddodir gan:

Syr John Armitt CBE FREng FICE

Cadeirydd, Awdurdod Cyflawni’r Gemau Olympaidd

6.00pm, Dydd Llun 24 Mawrth 2014

Darlithfa Birt Acres

Adeilad Bute, Parc Cathays, Caerdydd 

 Gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd

 

Penodwyd Syr John Armitt CBE FREng FICE, yn Gadeirydd Awdurdod Cyflawni’r Gemau Olympaidd ar 1 Medi 2007.

Cyn hynny roedd Syr John yn Brif Weithredwr Network Rail o fis Hydref 2002 ac yn Brif Weithredwr Railtrack plc o fis Rhagfyr 2001. Mae ganddo brofiad eang yn y marchnadoedd adeiladu, peirianneg sifil ac adeiladu diwydiannol.

Rhwng 1986 a 1993 roedd yn Gadeirydd Adrannau Rhyngwladol a Pheirianneg Sifil Laing, cwmni yr ymunodd ag ef pan raddiodd ym 1966. Rhwng 1993 a 1997 ef oedd Prif Weithredwr Union Railways, y cwmni oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r Cyswllt Rheilffordd cyflymder uchel drwy Dwnnel y Sianel. Ym 1997 fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr Costain, swydd y bu ynddi tan 2001.

Syr John hefyd yw Cadeirydd Grŵp National Express, City and Guilds a Dirprwy Gadeirydd Grŵp Berkeley. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Trafnidiaeth Llundain a Chomisiwn y Meysydd Awyr.

Mae Syr John yn gyn Gadeirydd Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianyddol a Ffisegol, ac mae’n Gymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol a Sefydliad y Peirianwyr Sifil. Bydd Syr John yn dod yn Llywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil ym mis Tachwedd 2015.

Dyrchafwyd Syr John yn Farchog yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2012 am ei wasanaethau i beirianneg ac adeiladu.