Y Farchnad Sengl yn yr Argyfwng Economaidd Ewropeaidd Esblygol: Cyfle, Cyfyngiad, Bygythiad?
Y Farchnad Sengl yn yr Argyfwng Economaidd Ewropeaidd Esblygol: Cyfle, Cyfyngiad, Bygythiad?
– Trafodaeth
Dydd Mercher 28 Mawrth 2012, 17.30-19.30
Siambr y Cyngor, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Caerdydd
Bydd y bedwaredd drafodaeth yn ein cyfres yn ystyried dyfodol y Farchnad Sengl yng ngoleuni’r argyfwng ariannol ac economaidd byd-eang, ac yng nghyd-destun diweddar iawn uwchgynadleddau 9 Rhagfyr 2011 a 29 Ionawr 2012. Sut mae safbwyntiau yn y DU ar y Farchnad Sengl wedi esblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf? A all y DU gadw ei diddordebau allweddol yn y Farchnad Sengl o’i sefyllfa y tu allan i’r cytundeb rhyngllywodraethol a’r Euro? Sut mae’r gymuned fusnes yn gweld y Farchnad Sengl, yn benodol o bersbectif Cymru? A fyddai’r Farchnad Sengl yn gallu gwrthsefyll adfywiad mewn pwysau diffyniaethol? Bydd y drafodaeth hon yn dod â siaradwyr academaidd, proffesiynol a gwleidyddol nodedig o Gymru, y DU ac Ewrop at ei gilydd i drafod goblygiadau’r newidiadau hyn i’r DU ac i Gymru a’r opsiynau strategol posibl y mae llywodraethau’r DU a Chymru yn eu hwynebu yn y dyfodol
Cyfranogwyr:
Yr Athro Alistair Cole, Yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd)
Yr Athro Michelle Cini, Prifysgol Bryste
Henrik Morch, Y Comisiwn Ewropeaidd
Y Fonesig Eluned Morgan, cyn ASE ac Athro Nodedig Er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Stijn Smismans, Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Ceir taflen am y trafodaeth bwrdd yma.
GWYBODAETH GOFRESTRU
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cofrestrwch yn gynnar gan y bydd y llefydd yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Ebostiwch euros-pgr@Cardiff.ac.uk i gofrestru erbyn 23 Mawrth 2012. I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hanner diwrnod cysylltwch ag Ian Stafford (Swyddog Ymchwil): staffordim@cardiff.ac.uk neu ar y ffôn: 029 20 870 325.
Mae’r Prif Adeilad ym Mharc Cathays I gael gwybodaeth am deithio, ewch i:
http://www.cardiff.ac.uk/locations/maps/index.html