Gravitational Waves: Listening to the True Music of the Spheres!

Gravitational Waves: Listening to the True Music of the Spheres!

Yr Athro Bernard Schutz FInstP FLSW

Cyfarwyddwr Athrofa Ffiseg Disgyrchiant Max Planck (Sefydliad Albert Einstein)

a Phrifysgol Caerdydd

 13 Gorffennaf 2011, 6.30pm

Darlithfa Julian Hodge, Colum Drive, Prifysgol Caerdydd

 Mae gwaith yr Athro Schutz yn bennaf yn ymwneud ag astudio ffiseg ac astroffiseg ffynonellau tonnau disgyrchiant gan gynnwys tyllau du a sêr niwtron, a dulliau o ddadansoddi data o ddatgelyddion tonnau disgyrchiant i ganfod ac astudio tonnau disgyrchiant. Mae’n awdur nifer o werslyfrau a llyfrau poblogaidd am berthnasedd ac astroffiseg.  

 

Trefnir y ddarlith hon gan Ysgol Ffiseg ac Astronomeg Prifysgol Caerdydd ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Hon yw un o dair darlith gyhoeddus a drefnir gan y Brifysgol ar achlysur Cynadleddau Amaldi-9 a NRDA-2011 ar donnau disgyrchiant ac astroffiseg a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng 10 a 15 Gorffennaf 2011.   

 

 Ceir taflen am y ddarlith yma.