Banking Crisis in Europe: Systematic Risk and Financial Stability – Trafodaeth Bwrdd

 

 

Dydd Mercher 22 Chwefror 2012, 17.00-19.30

 Ystafelloedd Pwyllgor Adeilad Morgannwg

Prifysgol Caerdydd, Caerdydd

 

 Elfen allweddol o’r argyfwng economaidd ac ariannol sydd wedi cwmpasu’r Undeb Ewropeaidd a’i Haelod Wladwriaethau fu’r pryder eang am wydnwch a sefydlogrwydd y system fancio Ewropeaidd. Ym mis Rhagfyr 2011 cymerodd Banc Canolog Ewrop gam digynsail drwy ddarparu 489 biliwn euro mewn benthyciadau tair blynedd i fanciau ym Mharth yr Euro fel rhan o gynllun ail-gyllido tymor hirach er mwyn osgoi gwasgfa gyfochrog a’r posibilrwydd o fanciau’n methu. Fodd bynnag, mae’r graddau y bydd y fenter yn cyflenwi canlyniadau cadarnhaol o fewn cyd-destun yr argyfwng economaidd a sofran ehangach yn parhau’n ansicr. Yn wir, mae banciau ym Mharth yr Euro wedi parhau i gynyddu eu hadneuon gyda Banc Canolog Ewrop ac mae sylwebwyr yn y cyfryngau wedi parhau i ddyfalu am ddyrchafiad yr hyn a elwir yn fanciau ‘zombie’ o fewn Parth yr Euro. Daw’r drafodaeth hon â siaradwyr ynghyd o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop i drafod goblygiadau’r heriau hyn i ddyfodol Ewrop, y DU a Chymru a’r opsiynau strategol posibl y mae llywodraethau’r DU a Chymru yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Cyfranwyr i’r drafodaeth:

Yr Athro Kenneth Dyson, Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Caerdydd, Prifysgol Caerdydd (Cadeirydd)

Marie Donnay, Y Comisiwn Ewropeaidd

Gabriel Glocker, Banc Canolog Ewrop

Dr. David Howarth, Prifysgol Caergrawnt

Dr. Lucia Quaglia, Prifysgol Sussex

Dr. Kay Swinburne, ASE

  

 

 Noder y cynhelir y drafodaeth hon dan Reol Tŷ Chatham. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

http://www.chathamhouse.org/about-us/chathamhouserule

 

Ceir taflen am y trafodaeth bwrdd yma

 

 GWYBODAETH GOFRESTRU

 Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cofrestrwch yn gynnar gan y bydd y llefydd yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Ebostiwch euros-pgr@Cardiff.ac.uk i gofrestru erbyn 17 Chwefror 2012 I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hanner diwrnod cysylltwch ag Ian Stafford (Swyddog Ymchwil): staffordim@cardiff.ac.uk neu ar y ffôn: 029 20 870 325.

Mae Adeilad Morgannwg ym Mharc Cathays I gael gwybodaeth am deithio, ewch i:  http://www.cardiff.ac.uk/locations/maps/index.html