A Federal Europe in the Making? Cynhadledd Hanner Diwrnod, 7 Rhagfyr 2011, Bae Caerdydd

A Federal Europe in the Making?

 Europe 2020, the European Semester and the Euro Plus Pact

   Cynhadledd Hanner Diwrnod: Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2011, 09.45-14.00 

 Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd 

Dros y deunaw mis diwethaf mae’r Undeb Ewropeaidd a’i Haelod-Wladwriaethau wedi wynebu heriau digynsail yn sgil yr argyfwng ariannol ac economaidd byd-eang. Mae newidiadau sylweddol yn nhrefniadau llywodraethu economaidd Ewrop wedi’u gyrru gan yr argyfwng dyled sofran o fewn parth yr Ewro a phryderon parhaus yn ymwneud â gwytnwch cyffredinol system fancio Ewrop. Mae’r diwygiadau hyn yn addo ailffurfio cyfeiriad gwleidyddol a sefydliadol yr UE yn sylfaenol ac mae’n debygol o fod â chanlyniadau sylweddol o fewn a’r tu hwnt i barth yr Ewro. Daw’r gynhadledd hanner diwrnod hwn â siaradwyr o Gymru, y DU ac Ewrop at ei gilydd i drafod oblygiadau’r newidiadau hyn i’r DU a Chymru a’r opsiynau strategol posibl y bydd llywodraethau’r DU a Chymru yn eu hwynebu yn y dyfodol. Yn dilyn diwedd ffurfiol y gynhadledd bydd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, yn traddodi araith ar Gymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau dan y teitl ‘Diwygio Llywodraethu Economaidd: Goblygiadau ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru’, a noddir gan y Comisiwn Ewropeaidd a’r Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac a drefnir ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Nod y gyfres yw ceisio denu amrywiaeth eang o ddinasyddion, penderfynwyr ac academyddion i ystyried y goblygiadau i’r DU ac i Gymru yn sgil y newidiadau mawr ac esblygol yn y drefn o lywodraethu economaidd yn Ewrop yng nghyd-destun yr argyfwng cyllidol ac economaidd mwyaf ers y 1930au. Mae’r siaradwyr yn dod o lywodraethau’r DU a Chymru a’r sector breifat, o sefydliadau’r UE, o Aelod-Wladwriaethau eraill ac o academia.

GWYBODAETH GOFRESTRU

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly cofrestrwch yn gynnar gan y bydd y llefydd yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin. Ebostiwch euros-pgr@Cardiff.ac.uk i gofrestru erbyn 2 Rhagfyr 2011.      

I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hanner diwrnod cysylltwch ag Ian Stafford (Swyddog Ymchwil): staffordim@cardiff.ac.uk neu ar y ffôn: 029 20 870 325.

 

Mae Adeilad y Pierhead nesaf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. I gael gwybodaeth am deithio, ewch i:  

 

 http://www.cf.ac.uk/euros/newsandevents/events/economicgovernance.html