Geometry and Physics: Past, Present and Future
Ffiniau
‘Geometry and Physics: Past, Present and Future’
Syr Michael Atiyah OM FRS FRSE
Prifysgol Caeredin
5.00yh. Dydd Llun 17 Ionawr 2011
Darlithfa Wallace, Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd
O Newton i Einstein a thu hwnt, bu cyswllt hir ac agos rhwng Geometreg a Ffiseg. Mae nerth y rhyngweithio wedi amrywio wrth i’r disgyblaethau esblygu. Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod hynod o gyffrous, gydag effaith bwysig ar y ddwy ochr. Ond beth ddaw yn y dyfodol? Bydd Syr Michael Atiyah yn bwrw golwg dros yr olygfa ac yn trafod syniadau cyfredol a phosibiliadau.
Anelir y ddarlith nodedig hon at sbectrwm eang o wyddonwyr sydd â diddordeb yn ffiniau ymchwil mathemategol â chymwysiadau a gwreiddiau mewn ffiseg ddamcaniaethol a gwyddorau eraill. Bydd Llywydd Sefydlu’r Gymdeithas, Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS yn cadeirio. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb, gyda the o 4.15pm yn Siambr y Cyngor, a derbyniad gwin yn Oriel Viriamu Jones ar ôl y ddarlith. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru am y digwyddiad, cysylltwch â’r Athro David Evans, EvansDE@cf.ac.uk, Ysgol Fathemateg Cymru. Dyddiad cau cofrestru yw dydd Gwener 7 Ionawr 2011.
Syr Michael yw un o fathemategwyr mwyaf blaenllaw a mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, yn Feistr Coleg y Drindod, Caergrawnt, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Mathemategol Isaac Newton, Caergrawnt, a Llywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin. Dyfarnwyd iddo Fedal Fields ym 1966, y Fedal Frenhinol ym 1980, Medal Copley ym 1988, Gwobr Abel yn 2004 a’r Grande Médaille yn 2010.
Ceir taflen am y ddarlith yma.