Designing Bloodhound SSC – The 1000mph Car
Ffiniau
‘Designing BLOODHOUND SSC – The 1000mph Car’
Professor Kenneth Morgan
Coleg Peirianyddiaeth, Prifysgol Abertawe
7.00 yh, Dydd Iau, 25 Tachwedd, 2010,
Hen Coleg, Prifysgol Abertawe
Amcan Prosiect BLOODHOUND SSC yw mynd â Record Byd am Gyflymder ar y Tir i faes cwbl newydd. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn cynorthwyo’r broses o gynllunio cerbyd â pherson ynddo a fydd yn gallu cyrraedd 1000mph erbyn 2012. Byddai hyn 30% yn gyflymach na’r Record bresennol, sef 763mph. Mae’r Prosiect yn cyflwyno heriau peirianyddol enfawr i’r tîm cynllunio, gan gynnwys y broblem o sicrhau y bydd y car yn parhau’n sefydlog ar y cyflymder hwn. I gynorthwyo’r tîm cynllunio caiff dynameg hylifol cyfrifiannu ei defnyddio ym Mhrifysgol Abertawe i ragweld ymddygiad aerodynamig cyffredinol y cerbyd. Bydd y ddarlith yn disgrifio natur y dulliau a gaiff eu defnyddio a’r cyfraniadau at y cynllun aerodynamig sydd wedi’u cwblhau.
Cyfres o ddarlithoedd yw Ffiniau sy’n gwahodd academyddion nodedig i siarad am ffiniau ymchwil a gosod eu cyfraniadau eu hunain yn eu cyd-destun. Mae ymchwil yr Athro Morgan wedi cyfrannu at ddatblygiad disgyblaeth peirianneg cyfrifiannu a newid y modd y mae’r diwydiant awyrofod yn defnyddio efelychiadau wrth ddadansoddi a chynllunio peirianyddol
Ceir taflen am y ddarlith yma.