Ethol Cymrodyr

Bydd etholiad i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn agored i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:

  • sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o’r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau’n aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac
  • sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi’u geni yng Nghymru ond sy‘n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

 

Drwy ganolbwyntio ar feini prawf rhagoriaeth a chyflawniad, bydd y Gymdeithas yn sicrhau  bod ei Chymrodoriaeth yn enghraifft awdurdodol (ond na fydd byth yn llwyr gynrychioliadol) o’r gorau y mae Cymru yn alluog i’w gyflawni ym mhob un o brif ddisgyblaethau gwybodaeth ddynol.

 

Yn y lle cyntaf wrth ddethol Cymrodyr Cychwynnol, gwnaed penderfyniad bwriadol i ganolbwyntio ar Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol a’r Academi Brydeinig – mewn geiriau eraill ar ysgolheigion diamwys y byddai eu haelodaeth yn cadarnhau’n ddi-gwestiwn rhagoriaeth ac ansawdd eithriadol y Gymdeithas ac yn rhoi iddi fri ac effaith.

Mae’r Gymdeithas yn ymwybodol fod nifer sylweddol o ddarpar Gymrodyr nodedig eraill yng Nghymru (a nifer uwch o lawer pan ystyrir y diaspora Cymreig) gan gynnwys llawer sydd eisoes yn aelodau o gymdeithasau dysgedig eraill. Y bwriad, yw ychwanegu’n sylweddol at y nifer cyfredol o dri chant o Gymrodyr, gan ddefnyddio trefniadau priodol, tryloyw a theg ond trylwyr (gan gynnwys enwebiadau â thystlythyrau a phaneli dethol arbenigol i ddynodi talent mewn meysydd gwahanol).

Mae’r Gymdeithas hefyd yn bwriadu estyn y Gymrodoriaeth y tu hwnt i academia i gynnwys pobl o feysydd eraill gan gynnwys meddygaeth, y gyfraith a phroffesiynau eraill, busnes a’r celfyddydau – cyhyd â’u bod yn bob amser yn diwallu meini prawf y Gymdeithas y cytunwyd arnynt.