Y Prifysgolion
Mae Prifysgolion yn ganolog i ddatblygiad y byd modern. Mae disgwyliadau unigolion, busnesau a llywodraethau o addysg uwch yn cynyddu ac ambell waith yn gwrthdaro. Yng Nghymru, mae i brifysgolion swyddogaeth amlwg fel asiantau sy’n gallu ac sy’n fodlon gweithredu polisïau economaidd a chymdeithasol a gynigir gan y Cynulliad a’r Llywodraeth.
Mae gan academyddion, sy’n creu ac yn gwarchod bywyd y Brifysgol, eu gofynion eu hunain o ran addysgu, ysgolheictod ac ymchwil.
Mae’r cwestiwn byd eang yn codi: Beth yw diben Prifysgolion?
Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau sy’n archwilio natur ddeallusol, gymdeithasol, economaidd a diwylliannol Prifysgolion.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu ymholiadau gan unigolion a chyrff yn cynnig cyfraniadau megis darlithoedd, symposia a digwyddiadau a gweithgareddau eraill ar thema Prifysgolion.
Ymhlith y digwyddiadau blaenorol a drefnwyd gan y Gymdeithas ar thema Prifysgolion mae:
Symposiwm undydd: ‘What are Universities for?’, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2011 yn UWIC, Llandaf, Caerdydd.