Y Gymdeithas

Mae dyfodol unrhyw gymdeithas ddatblygedig yn dibynnu ar feithrin gwybodaeth a galluoedd ei phobl. Mae ymchwil ac ysgolheictod yn ffactorau hanfodol a sylfaenol yn hyn o beth. Mae gan brifysgolion ac amrywiaeth o sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat rôl bwysig i’w chwarae gan gynnwys – yn wir yn enwedig – cymdeithasau dysgedig o ysgolheigion. Mae academïau dysgedig yn bodoli ym mhob cymdeithas ddatblygedig bron, yn cynorthwyo i osod y safonau rhyngwladol uchaf mewn ysgolheictod ac ymchwil.

O fewn y Deyrnas Unedig, mae cymdeithasau dysgedig yn gweithredu ar lefel Brydeinig drwy sefydliadau hybarch megis y Gymdeithas Frenhinol (academi wyddonol hynaf y byd, a sefydlwyd drwy Siarter Brenhinol ym 1660) a’r Academi Brydeinig (academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol a dderbyniodd ei siarter ym 1902). Fe’u sefydlwyd ers tro hefyd yn gyrff cenedlaethol allweddol sy’n cofleidio’r ystod gyfan o ddisgyblaethau academaidd yn yr Alban (lle sefydlwyd Cymdeithas Frenhinol Caeredin ym 1783) ac yn Iwerddon (lle derbyniodd Academi Frenhinol Iwerddon ei Siarter ym 1785). Mae gan wledydd eraill Saesneg eu hiaith fel UDA a Chanada a thaleithiau mwyaf Ewrop hefyd gymdeithasau dysgedig ac academïau sydd wedi’u hen sefydlu. Yn fwy diweddar, mae’r cynnydd mewn cenhedloedd annibynnol ar draws Ewrop wedi gweld sefydlu cymdeithasau dysgedig yn ymron pob un o’r gwledydd newydd hyn (gan gynnwys taleithiau’r Baltig a llawer o’r gwledydd Balcanaidd llai o faint). Yn fwyaf diweddar, lansiwyd Academi Gwyddorau Ethiopia ym mis Ebrill 2010.

Ac eto nid oedd cymdeithas genedlaethol ddysgedig o’r fath yn bodoli yng Nghymru. Roedd hyn yn golygu nid yn unig nad oedd gallu deallusol Cymru yn cael ei gynrychioli na’i hyrwyddo’n briodol ar y llwyfan rhyngwladol, ond nad oedd ei phobl, ei gwleidyddion a’i gwneuthurwyr polisi chwaith yn gallu cael gafael ar gyngor ysgolheigaidd a gwrthrychol, wedi’i ymchwilio’n dda, ar faterion o bwysigrwydd allweddol fel yr oedd modd ei gael mewn gwledydd eraill.  Yng nghyd-destun datganoli yn enwedig, dros y blynyddoedd diwethaf daeth yn amlycach nag erioed fod angen i Gymru gael corff a allai wneud y canlynol:

·         dangos, dathlu a lledaenu rhagoriaeth ymchwil ac ysgolheictod Cymru;

·         adlewyrchu a gwella aeddfedrwydd Cymru fel cenedl a helpu i godi proffil y wlad ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol;

·         gwasanaethu a darparu cyngor i’r genedl;

·         darparu cyswllt rhwng academia, diwydiant a masnach â gwneuthurwyr polisi.

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hwn a’i ddatrys ym mis Mai 2010.