Ffiniau
Cywreinrwydd unigol yn aml sy’n sbarduno pobl i geisio gwybodaeth, ac fe rennir y canfyddiadau â chymuned wybodus a rhyngwladol, sydd hefyd yn eu profi.
Cyfres o ddarlithoedd yw Ffiniau sy’n estyn gwahoddiad i academyddion nodedig siarad am ffiniau ysgolheictod ac ymchwil yn eu meysydd a gosod eu cyfraniadau eu hunain yn eu cyd-destun. Bydd Darlithwyr Ffiniau yn aml yn ymwelwyr â Chymru, ac yn dod o blith rheng flaen eu disgyblaethau.
Gall Darlith Ffiniau fod ar unrhyw bwnc. Gall amrywio o’r hynod dechnegol ac allgynhwysol i’r esboniadol a phoblogaidd. Gall fod yn ddigwyddiad unigol neu ddarlith arbennig mewn cynhadledd. Fel rheol disgwylir i’r darlithoedd gael cyhoeddusrwydd eang, a bod yn agored ac am ddim.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu ymholiadau gan unigolion a chyrff ynglŷn â chynnig a chynnal darlith Ffiniau.
Ymhlith y darlithoedd Ffiniau ar gyrraedd mae:
- ‘Flatland, a Great Place to do Algebra’ Darlith Ffiniau nodedig gan Syr Vaughan Jones KMNZ FRS FRSNZ, Prifysgol Vanderbilt, ym Mhrifysgol Caerdydd, 16 Ebrill 2013, 5.15pm
Y darlithoedd Ffiniau blaenorol a drefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yw:
- Darlith ar ‘Dylunio’r BLOODHOUND SSC – Y car 1000 milltir yr awr’ gan yr Athro Kenneth Morgan FREng FLSW (Prifysgol Abertawe) ar 7 Mawrth 2012 ym Mhrifysgol Bangor
- ‘Stability and Complexity in Model Banking Systems’ gan yr Athro Arglwydd May o Rydychen (Prifysgol Rhydychen, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol 2000-2005) ar 27 Hydref 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd
-
‘Ancient Britons, Europe and Wales Ymchwil Newydd mewn Geneteg, Archaeoleg ac Ieithyddiaeth’, cynhadledd undydd a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2011 yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd – noddwyd ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru
-
‘Geometry and Physics: Past, Present and Future’ gan Syr Michael Atiyah (Prifysgol Caeredin) ar 17 Ionawr 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd
-
‘Designing Bloodhound – The 1000mph Car’ gan yr Athro Kenneth Morgan (Prifysgol Abertawe) ar 25 Tachwedd 2010 ym Mhrifysgol Aberystwyth
-
‘Probability and Analysis at the Highest Degree of Non-Commutativity’ gan yr Athro Dan-Virgil Voiculescu (Prifysgol Califfornia, Berkeley), ar 28 Mehefin 2010 ym Mhrifysgol Caerdydd