Medal y Gymdeithas Ddysgedig i Syr Terry Matthews
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n falch i gyhoeddi mai’r peiriannydd a’r entrepreneur o Gymru, Syr Terry Matthews Kt OBE PEng FIEE FREng, fydd y cyntaf i dderbyn Medal Menelaus glodfawr y Gymdeithas.
Dyfernir y Fedal, a noddir gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007), am “ragoriaeth mewn unrhyw faes o beirianneg a thechnoleg i academydd, ymchwilydd diwydiannol neu ymarferydd diwydiannol sy’n preswylio yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru ond sy’n byw yn rhywle arall, neu sydd fel arall â chysylltiad penodol â Chymru”.
Syr John Cadogan PLSW â’r Athro Vernon Morgan FLSW, ymddiriedolwr SWIEET2007
Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Syr John Cadogan:
“Mae’n gwbl briodol fod un o beirianwyr a gwŷr busnes blaenllaw Cymru, Syr Terry Matthews, wedi’i ddewis i dderbyn y Fedal Menelaus gyntaf i’w dyfarnu gan y Gymdeithas. Rwyf i wrth fy modd ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i’r seremoni gyflwyno ym Mhrifysgol Caerdydd ar 3 Gorffennaf.”
Dywedodd Syr Terry Matthews:
“Rwyf i’n falch iawn mai fi fydd y cyntaf i dderbyn Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fel peiriannydd a rhywun sy’n frwd dros hanes diwydiannol – a busnes yn gyffredinol – mae hon yn anrhydedd fawr i mi.”
Caiff y Fedal ei chyflwyno yn ystod seremoni a gynhelir yn Narlithfa Ffisioleg ‘B’ (C-/1.04) yn Adeilad Syr Martin Evans, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa’r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3AX, ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2013. Mae croeso i bawb.
Yn union ar ôl y seremoni, bydd Syr Terry yn traddodi darlith gyhoeddus ar thema cefnogi a mentora cenhedlaeth newydd o bobl fusnes, i greu peiriant o dwf economaidd i Gymru, gan dargedu marchnadoedd y byd.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.