Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau gwresog i Gymrodyr canlynol y Gymdeithas ar eu cyflawniadau:

 

Mae’r Athro Mendus, Athro Emerita Morrell mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerefrog, a chyn aelod o Gyngor y Gymdeithas, wedi’i chydnabod am ei gwasanaethau i wyddorau gwleidyddol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, ac wedi’i phenodi’n CBE.

 

Mae Dr Evans, ynghyd â chwe chydweithiwr yn CERN, wedi ennill Gwobr Arbennig Ffiseg Sylfaenol mewn cydnabyddiaeth haeddiannol o’i rôl yn narganfyddiad y gronyn newydd sy’n ymdebygu i Higgs Boson yn y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

 

 

  •  Y Parchedig Arglwydd Leslie Griffiths:

Urddwyd gan Weriniaeth Dominica yn Aelod o Urdd Christopher Columbus am ‘gyfraniad amlwg i’r ddynoliaeth a gwella dealltwriaeth rhwng pobloedd yr “Americas”’, i gydnabod ei waith ysgolheigaidd ac ymarferol ar ran pobloedd Haiti a Gweriniaeth Dominica.

 

  •  Yr Athro Jonathan Shepherd CBE FMedSci FLSW:

Etholwyd Yr Athro Shepherd i Gyngor Academi’r Gwyddorau Meddygol (2012-15).

Hefyd mae’r Athro Shepherd ar restr fer gwobr Prosiect Ymchwil y flwyddyn y Times Higher Education am waith ymchwil arloesol gyda’i dîm i drais, alcohol a diogelwch hwyr y nos. Canlyniad allweddol gwaith ymchwil y tîm yw datblygu Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais sy’n defnyddio gwybodaeth a gesglir mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i fesur trais ac i yrru gweithgaredd atal trais.

 

  • Yr Athro W. John Morgan DSc FRAI FRSA FLSW

Penodwyd yr Athro Morgan, Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig i UNESCO, yn aelod o Banel Arbenigwyr Rhyngwladol Cyfarwyddwr Cyffredinol UNESCO ar Ailfeddwl Addysg mewn Byd Newidiol.

 

  • Yr Athro Mike Owen FRCPsych FMedSci FLSW

Dyfarnwyd Gwobr Leiber i’r Athro Owen o Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig MRC Prifysgol Caerdydd i gydnabod ei waith eithriadol i achosion atal a thriniaeth sgitsoffrenia.