‘Wales, America and the Space Race’ In conversation with George Abbey
6.30yh, Dydd Iau, Ebrill 25ain yn Narlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe.
Fe fydd derbyniad a lluniaeth cyn y ddarlith yn nerbynfa Faraday o 6yh ymlaen.
Mr George W. S. Abbey Sr., cyn-gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson NASA ac sydd bellach yn Gymrawd mewn polisi Gofod yng Nghanolfan Baker, Prifysgol Rice, Houston sy’n traddodi’r ddarlith flynyddol ariannir gan weddw Richard Burton’s Sally Burton ar Ebrill 25 ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ystod y ddarlith gyhoeddus – sy’n rhad ac am ddim, ac sy’n dwyn y teitl ‘In-conversation with George Abbey: Wales, America and the Space Race’ – fe fydd y cyn–swyddog NASA yn trafod nifer o bynciau cyffrous gan gynnwys y teithiau i’r lleuad, hanes prosiect y wennol ofod a’r ffaith bod mwy o luniau o Gymru wedi eu tynnu o’r gofod nag o unrhyw genedl arall.
Yn yr wythdegau daeth yn gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Weithredoedd Criw Hedfan (Flight Crew Operations Directorate) gan ddewis y criwiau a fu’n hedfan yn ystod blynyddoedd cynnar y wennol ofod, gan hefyd anfon y menywod cyntaf i’r gofod. Yn 1996, daeth Abbey yn Gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson (1996-2001) ac fe fu’n rhan o brosiect Gwennol a MIR NASA, ac yn ffigwr canolog yn natblygiad yr orsaf ofod ryngwladol.
Cafodd George Abbey ei eni yn Seattle, Washington. Roedd ei fam o Dalacharn ac mae gan Mr Abbey ddiddordeb byw yng Nghymru a’i dras Cymreig. Mae’n gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe lle mae ei fab James Abbey yn ymgynghorydd strategaeth ryngwladol.
Cyn-fardd cenedlaethol Cymru a chymrawd y gronfa lenyddol frenhinol ym Mhrifysgol Abertawe, Gwyneth Lewis, fydd yn cyflwyno’r ddarlith gyda darlleniad o Zero Gravity, casgliad o gerddi a seiliwyd ar brofiadau ei chefnder, y Cymro-Americanaidd, Joe Tanner, a deithiodd i’r gofod yn y wennol ofod.
Dyma’r drydedd ddarlith Richard Burton flynyddol. Traddodwyd y ddarlith yn flaenorol gan yr Athro Chris Williams, golygydd Dyddiaduron Richard Burton a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyniaethau a’r Celfyddydau a John McGrath, Cyfarwyddwr National Theatre Wales.
Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, Dr Daniel Williams (a fydd hefyd yn cyfweld â George Abbey),
“Mae’n gyffrous iawn bod Darlith Richard Burton yn cymryd tro trawsatlantig eleni, ac rwyf wrth fy modd bod George Abbey wedi cytuno dychwelyd i Gymru. O ystyried bod ei yrfa wedi ymestyn dros 39 o flynyddoedd, o ddyddiau cynnar prosiect Apollo hyd at adeiladu’r Orsaf Ofod Ryngwladol, a’i fod wedi dewis gofodwyr y wennol ofod, ni fydd prinder o bynciau difyr i’w trafod. Os ychwanegwn at hynny’r ffaith fod mam George Abbey o Dalacharn, iddo drefnu i weithiau Dylan Thomas gael eu cludo i’r gofod, a’i fod yn mwynhau cerddoriaeth werin Geltaidd, mae’n argoeli bod yn noson arbennig.”
Fe fydd y ddarlith yn dechrau’n brydlon am 6.30yh, Dydd Iau, Ebrill 25ain yn Narlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe. Fe fydd derbyniad a lluniaeth cyn y ddarlith yn nerbynfa Faraday o 6yh ymlaen.
Mae’n ddigwyddiad rhad ac ddim ac mae croeso i bawb.
Noddir y derbyniad gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Dr Daniel G. Williams