Menelaus Medal Lecture
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n falch i gyhoeddi mai’r peiriannydd a’r entrepreneur o Gymru, Syr Terry Matthews Kt OBE PEng FIEE FREng, fydd y cyntaf i dderbyn Medal Menelaus glodfawr y Gymdeithas.
Cyflwynwyd y Fedal yn ddiweddar mewn seremoni ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fideo o’r seremoni i’w weld yma
Dyfernir y Fedal, a noddir gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007), am “ragoriaeth mewn unrhyw faes o beirianneg a thechnoleg i academydd, ymchwilydd diwydiannol neu ymarferydd diwydiannol sy’n preswylio yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru ond sy’n byw yn rhywle arall, neu sydd fel arall â chysylltiad penodol â Chymru”.
Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Syr John Cadogan:
“Mae’n gwbl briodol fod un o beirianwyr a gwŷr busnes blaenllaw Cymru, Syr Terry Matthews, wedi’i ddewis i dderbyn y Fedal Menelaus gyntaf i’w dyfarnu gan y Gymdeithas. Rwyf i wrth fy modd ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod i’r seremoni gyflwyno ym Mhrifysgol Caerdydd ar 3 Gorffennaf.”
Dywedodd Syr Terry Matthews:
“Rwyf i’n falch iawn mai fi fydd y cyntaf i dderbyn Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fel peiriannydd a rhywun sy’n frwd dros hanes diwydiannol – a busnes yn gyffredinol – mae hon yn anrhydedd fawr i mi.”
Yn dilyn y seremoni, traddododd Syr Terry ddarlith gyhoeddus ddifyr a diddorol i blant ysgol lleol a gwesteion ar thema cefnogi a mentora’r genhedlaeth nesaf o bobl fusnes.
Mae fideo o’r ddarlith, holi ac ateb, a’r seremoni ar gael yma.