Dylunio’r BLOODHOUND SSC – Y Car 1000 milltir yr awr
Darlith cyhoeddus gan:
Yr Athro Ken Morgan FREng FLSW
Prifysgol Abertawe
7 Mawrth 2012 am 18.00
Ddarlithfa Ysgol Peirianneg Electronig
Prifysgol Bangor, Stryd y Deon, Bangor
Amcan Prosiect BLOODHOUND SSC yw symud y Record Cyflymder Tir y Byd i gyfundrefn cyflymder newydd sbon. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cynorthwyo’r broses o gynllunio cerbyd â pherson ynddo a fydd yn gallu cyrraedd cyflymder o 1000mph erbyn 2012. Byddai hyn 30% yn uwch na’r Record gyfredol ar gyfer Cyflymder Tir y Byd sy’n 763mph. Mae’r Prosiect yn cynnig heriau peirianyddol enfawr i’r tîm cynllunio, gan gynnwys y broblem o sicrhau y bydd y car yn parhau’n sefydlog ar y cyflymder hwn. Er mwyn cynorthwyo’r tîm cynllunio, mae dynameg hylifol gyfrifiannol yn cael ei defnyddio ym Mhrifysgol Abertawe i ragweld ymddygiad aerodynamig cyffredinol y cerbyd. Bydd y ddarlith yn disgrifio natur y dulliau a ddefnyddir a’r cyfraniadau i’r cynlluniau aerodynamig sydd wedi’u gwneud.
The lecture will be delivered in Welsh but simultaneous translation into English will be available.
Mae Ffiniau yn gyfres o ddarlithoedd sy’n gwahodd academyddion nodedig i siarad am ffiniau ymchwil a gosod eu cyfraniadau eu hunain mewn cyd-destun. Mae ymchwil yr Athro Morgan wedi cyfrannu at ddatblygu disgyblaeth peirianneg cyfrifiannol ac wedi newid y ffordd y mae’r diwydiant awyrofod yn defnyddio dulliau efelychu mewn gwaith dadansoddi a chynllunio peirianyddol
Ceir taflen am y ddarlith yma .