Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn eironig, mewn gwlad y gellid dadlau mai hi oedd cenedl ddiwydiannol gyntaf y byd, ychydig sy’n wybyddus am hanes ac etifeddiaeth Cymru o ran gwyddoniaeth a thechnoleg. Eto i gyd mae Cymru a’i phobl wedi chwarae rhan sylweddol yn nhwf gwybodaeth wyddonol a’r defnydd ohoni.
Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau i ddatblygu hanes gwyddoniaeth a thechnoleg a’r modd y caiff ei werthfawrogi’n gyffredinol, ac etifeddiaeth wyddonol a thechnolegol Cymru yn benodol.
Mae’r Gymdeithas yn croesawu ymholiadau gan unigolion a chyrff yn cynnig cyfraniadau megis darlithoedd, symposia a digwyddiadau a gweithgareddau eraill ar thema Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Ymhlith y darlithoedd Hanes Gwyddoniaeth a Thechnoleg arfaethedig mae:
· Darlith ar ‘The Genius of Michael Faraday’ ar 1 Rhagfyr 2011 yng Nghaerdydd gan yr Athro Syr John Meurig Thomas FLSW (Prifysgol Caergrawnt)
· Darlith ar ‘William Grove: Wales’s Most Famous Scientist?’ ar 2 Rhagfyr 2011 yn Abertawe gan yr Athro Syr John Meurig Thomas FLSW (Prifysgol Caergrawnt)