Cyfleoedd

Grantiau Gweithdai Ymchwil

Mae’r cynllun grant wedi’i gynllunio i annog ymchwilio’n gydweithredol i gais ymchwil sydd ar gam cynnar yn ei ddatblygiad. Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun peilot y llynedd, rydym wedi datblygu tair ffrwd ar gyfer 2022: Astudiaethau Cymru; Ymchwilydd Gyrfa Cynnar; Y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.  Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect.
Mae galwadau ar gyfer ceisiadau yn agor ar 20 Medi 2022.

Medalau Dillwyn

Mae Medalau Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa cynnar sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru. Bob blwyddyn, rydym yn dyfarnu tair medal am waith ym meysydd: Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran, ac mae’r rheini sydd wedi cymryd toriad yn eu gyrfa hefyd yn gymwys. Mae’r enwebiadau ar gyfer Medal Dillwyn ar gau ar hyn o bryd. Byddwn yn cyhoeddi enillwyr 2022 ym mis Tachwedd 2022.

Hyfforddiant ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar

O bryd i’w gilydd, gallwn gynnig cymorth i ymchwilwyr gyrfa cynnar fynychu digwyddiadau hyfforddiant sydd yn cael eu cynnig gan ein rhieni. I dderbyn rhybudd am y cynigion diweddaraf, cofrestrwch i’r Bwletin Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.

UK Young Academy

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhan o gydweithrediad gyda’r Academi’r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Yr Academi Beirianneg Frenhinol, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol, i greu UK Young Academy.
Mae UK Young Academy yn cysylltu a datblygu unigolion talentog ym mlynyddoedd cynnar eu gyrfa o ystod eang o sectorau, fel y gallant gydweithio i wneud gwahaniaeth yn y byd. Mae’r Academi’n dwyn ynghyd arweinwyr newydd y DU o’r byd diwydiant, academia, meddygaeth, addysg, busnes, y celfyddydau, a phroffesiynau eraill. Mae eu haelodau’n cael eu dewis o bob rhan o’r DU, o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol ac ystod o brofiadau.
Mae ceisiadau ar gyfer UK Young Academy ar gau ar hyn o bryd.