Adnoddau

Access to Medicines: The Impact of Social Inequalities

Dydd Mawrth 28 Mehefin, at 4:00- 6:00 pm

Trafododd y ford gron faterion ynghylch mynediad at feddyginiaethau o dan fframwaith y gyfraith hawliau dynol rhyngwladol, gan fynd i’r afael â’r tensiynau a allai godi mewn achosion ble mae diddordebau cyhoeddus a phreifat yn croesi ar draws ei gilydd o safbwynt rhyngddisgyblaethol.
Wedi’i drefnu ar y cyd ag aelodau’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a chyda chefnogaeth Cymrodyr y Gymdeithas, mae hwn yn berthnasol i ymchwilwyr ar draws disgyblaethau academaidd fel y gyfraith, hawliau dynol, iechyd byd-eang, meddygaeth, a gwleidyddiaeth ryngwladol, a rhai sy’n gweithio mewn gwahanol sefydliadau fel y GIG a’r Senedd.
Roedd aelodau’r panel yn cynnwys:
Dr Lowri Davies
Darlithydd yn y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe.
Yr Athro Ruth Northway, OBE
Athro Nyrsio Anabledd Dysgu a Phennaeth Ymchwil Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru.
Rhian Thomas-Turner
Arweinydd Ymchwil ac Arloesi NACHfW (Ysbyty Plant Arch Noa Cymru) ac Arweinydd Gweithredol CYARU (Uned Ymchwil i Blant ac Oedolion Ifanc y GIG).
Cadeirio’r digwyddiad:
Yr Athro John Harrington
Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru ac Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd. Mae’n cyd-gyfarwyddo Y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang Caerdydd, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Seminar Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar: Gwneud Cais am Grantiau… a’r Prif Gamgymeriadau

Roedd y seminar yn trafod gwneud cais am grantiau ar bob cam gyrfa ac roedd yn cynnwys gwahanol fathau o grantiau a chyllidwyr, yr hyn y gallwch wneud cais amdano fel myfyriwr PhD, a’r hyn y gallech anelu ato wrth i’ch gyrfa ddatblygu. Roedd yn cynnwys grantiau teithio a rhwydweithio, cymrodoriaethau, grantiau prosiect, a grantiau arbennig fel allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd, yn ogystal â’r prif gamgymeriadau mae ymgeiswyr grantiau yn eu gwneud

Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar: Cynnal Iechyd Meddwl

Roedd y sesiwn hon yn rhoi arweiniad ar heriau iechyd meddwl y gallai Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar eu hwynebu yn y byd academaidd, gan ganolbwyntio’n benodol ar syndrom impostor. Syr Keith Burnett: Cadeirydd y Cyngor Academaidd; Cymrawd Gwyddoniaeth Schmidt, Dr Masoumeh Minou; Swyddog Hybu Lles, y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe Dr Sarah Ward Clavier