Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n dod yn Noddwr Brenhinol Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi ysgol academi ysgolheigaidd gyntaf ac unig Gymru. Yn Elusen Cofrestredig (rhif 1141526), fe sefydlwyd y Gymdeithas a’i lansio’n gyhoeddus ym mis Mai 2010. Ei phwrpas yw dathlu, cydnabod, diogelu ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, yn ogystal â ha harneisio a llywio talent y genedl, fel y’i hymgorfforir yn ei Chymrodyr, er lles, yn bennaf, Cymru a’i phobl.
Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Syr John Cadogan: “Mae hyn yn newyddion ardderchog. Mae’r Gymdeithas wedi’i freinio a’i hanrhydeddu’n fawr iawn gan benderfyniad Eu Uchelder Brenhinol i ddod yn Noddwr Brenhinol iddi. Mae’r hysbysiad yn cydnabod y rôl arwyddocaol y mae’r Gymdeithas – a gafodd ei sefydlu yn gymharol ddiweddar – yn chwarae yn barod ym mywyd cyhoeddus Cymru ac yn natblygiad deallusol, gwyddonol a ddiwylliannol y genedl, a chaiff ei groesawu’n gynnes gan ein Cymrodoriaeth.”