Croeso

Elusen addysgol draws-ddisgyblaethol yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n gweithredu’n annibynnol ac yn sicrhau budd i’r cyhoedd gan gynnwys cyngor ysgolheigaidd arbenigol ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus yn ymwneud â gwyddoniaeth, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, a gall fanteisio ar gryfderau sylweddol dros 350 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Nod y Gymdeithas yw ei sefydlu ei hun yn gynrychiolydd rhyngwladol cydnabyddedig dysg Gymreig, ac yn ffynhonnell sylwadau a chyngor awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

Cenhadaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw:

  • Dathlu ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, gan gynnwys y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus;
  • Hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso canlyniadau ymholiadau ac ymchwil academaidd;
  • Gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy’n effeithio ar les Cymru a’i phobl

Y Llywydd cyfredol yw Syr Emyr Jones Parry GCMG FInstP PLSW.

 

NEWYDDION

  • Yr Adolygiad Diamond

In the summer of 2014, the Society was invited to submit written evidence to the Review of Higher Education Funding and Student Finance Arrangements in Wales, chaired by Sir Diamond. 

The Society’s report was submitted to the panel on 8 January 2015, and representatives of the Society attended a meeting of the Review panel on 22 January. 

Mae’r cyflwyniad yn cynnwys rhywfaint o ddadansoddi newydd ac argymhellion parthed yr angen i ddiwygio’r polisi ffioedd Addysg Uwch cyfredol, yn wyneb y llif trawsffiniol sylweddol o fyfyrwyr, gyda golwg ar sicrhau cynaladwyedd tymor hir y sector.

Darllenwch y cyflwyniad yma


  • Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd:

Dyrchafwyd yr Athro Teresa Rees CBE FAcSS FLSW, o Brifysgol Caerdydd yn Fonesig yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2015 am ei gwasanaeth i’r Gwyddorau Cymdeithasol. Meddai’r Athro y Fonesig Teresa: “Fel gwyddonydd cymdeithasol, rwy’n falch iawn o’r anrhydedd hwn sy’n dathlu cyfraniad y gwyddorau cymdeithasol i bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n amlygu pwysigrwydd ymchwil i’r rhywiau, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.”

Hoffai’r Gymdeithas longyfarch yr Athro y Fonesig Teresa.

 

 

Mae gwefan y Gymdeithas yn cael ei datblygu’n raddol.  Mae’r rhan fwyaf o’r tudalennau unigol erbyn hyn ar gael yn yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg, ill dau.  Am nawr, ceir mynediad i dudalen cyfrwng Cymraeg (lle bo ar gael) drwy glicio ar y botwm “Cymraeg” ar waelod y fersiwn Saesneg o’r tudalen.

 

Cymdeithas Ddysgedig Cymru, cwmni a gynfyngir drwy warant, wedi’i gofrestru yng Nghymru, Rhif 7256948; Elusen Cofrestredig Rhif 1141526

Swyddfa gofrestredig: Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS