Llongyfarchiadau i Gymrodyr

Hoffem longyfarch Cymrodyr canlynol y Gymdeithas ar eu llwyddiannau diweddar:

Dyfarnwyd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i Alwyn R Owens. 

Mae Mr Owens, sy’n gyn Bennaeth yr Adran Electroneg ym Mhrifysgol Bangor, wedi cynghori nifer o gwmnïau technolegol dros y blynyddoedd, gan gynnwys Hewlett Packard.Roedd hefyd yn rhan o dîm o Fangor oedd yn ymchwilio sut i ddileu dirgryniadau ar blatfform llong ofod – prosiect a gafodd gefnogaeth Asiantaeth Gofod Ewrop.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol:
 “Bu Alwyn yn weithgar iawn ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg am flynyddoedd lawer. Roedd yn gadeirydd y pwyllgor a drefnodd yr arddangosfa wyddoniaeth gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd yn 1966, ac mae’n parhau i ymddiddori ym maes cyflwyno gwyddoniaeth i’r cyhoedd. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am rai blynyddoedd, ac yn gadeirydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Priodol yw dyfarnu Medal eleni i wyddonydd sydd wedi profi ei hun yn ei faes arbenigol ac sydd hefyd yn gefnogwr selog i’r Brifwyl.”

 

Etholwyd yr Athro Hutton, o Adran Hanes Prifysgol Bryste yn Gymrawd yr Academi Brydeinig.

 

Dyfarnwyd Medal Davy i’r Athro Hutchings, o Ysgol Cemeg Caerdydd a Chyfarwyddwr Athrofa Catalysis Caerdydd  am ddarganfod catalysis drwy aur a’i gyfraniadau arloesol i’r maes newydd hwn ym maes cemeg.

Dyfernir Medal Davy Medal bob blwyddyn am “darganfyddiad diweddar eithriadol o bwysig mewn unrhyw faes cemeg”. Enwir y fedal ar ôl Humphry Davy FRS ac fe’i dyfarnwyd gyntaf ym 1877.

 

Dyfarnwyd Medal Frenhinol ar gyfer gwyddorau rhyngddisgyblaethol i’r Athro Wells, Ysgol Peirianneg Caerdydd am arloesi gyda chymhwyso’r gwyddorau ffisegol a pheirianyddol i ddatblygu uwchsain fel offeryn diagnostig a meddygol sydd wedi chwyldroi ymarfer clinigol.

Dyfernir tair Medal Frenhinol, a adwaenir hefyd fel Medal y Frenhines, yn flynyddol gan y Frenhines ar argymhelliad y Cyngor. 

 

Etholwyd Yr Athro Karihaloo o Ysgol Peirianneg Caerdydd yn Aelod Tramor o Academi Peirianneg Rwsia.

Mae Academi Peirianneg Rwsia yn academi gwyddorau gyhoeddus glodfawr, sy’n uno gwyddonwyr, peirianneg, cyrff gwyddonol, sefydliadau addysg uwch a mentrau o Rwsia a thramor. Mae cael ei ethol yn aelod tramor yn anrhydedd sy’n cydnabod arwyddocad gwyddonol a thechnegol yr Athro Karihaloo ym maes peirianneg, a’i gyfraniad i wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg ryngwladol.

 

Dyfarnwyd OBE i’r Athro Phillips, Athro Gerontoleg Prifysgol Abertawe am wasanaethau i Bobl Hŷn yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Yr Athro Phillips yw cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hŷn a Heneiddio (OPAN) yng Nghymru. Hi hefyd ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Athrofa Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymwysedig ym Mhrifysgol Abertawe.