Loading Events
  • This event has passed.

Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Dehongliad o Saith Chwyldro Hanesyddol –  Darlith Edward Lhuyd 2017

Thursday 9 November 2017, at 5:30 PM - 6:30 PM
Pontio Bangor University LL57 2TQ

Bydd yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones yn dehongli hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth.

Bydd yn dadlau bod modd adnabod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes ein planed. Drwy ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni, daw’r potensial i wneud gwaith ychwanegol, sy’n arwain at gymhlethdod materol ac at gymhlethdod cymdeithasol cynyddol.

Beth yw’r patrymau yn y chwe chwyldro? Beth yw eu goblygiadau ar gyfer y seithfed chwyldro, sydd ar ein gwarthaf ni heddiw?

 

Darlithydd: Yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones

Cadeirydd: Yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts

 

Ceir lluniaeth ysgafn yn dilyn y ddarlith.

I archebu tocynnau, ewch i bit.ly/Darlith2017 neu ffoniwch 01248 660672.

 

Mynediad am ddim. Croeso cynnes i bawb.

Event Details
Date
Thursday 9 November 2017
Time
5:30 PM - 6:30 PM
Website
bit.ly/Darlith2017
Organizer
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Website:
View Organizer Website
Venue
Pontio
Bangor University LL57 2TQ