Wrth i fwy a mwy o bobl fynd i oed, sut mae gofalu am bobl oedrannus yn ein cymunedau?
Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Mari Lloyd Williams yn trafod sut y mae newidiadau cymdeithasol a datblygiadau meddygol wedi trawsnewid ffyrdd o ofalu am bobl mewn oed. Bydd yn edrych ar y salwch anweledig sydd yn llethu llawer o bobl oedrannus ac yn cymharu agwedd y Cymry tuag at heneiddio â gwledydd eraill.
A ydym wedi mynd yn gymunedau diofal a digymwynas? Pwy fydd yn gofalu amdanom ni?
Darlith gan Mari Lloyd-Williams FLSW, Prifysgol Lerpwl.