Dathlu Bywyd Polymath o Fri

Fis Tachwedd bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal y ddarlith gyntaf mewn cyfres flynyddol a fydd yn cydnabod pwysigrwydd cyfraniad arloesol Edward Lhuyd i amryfal agweddau o fywyd deallusol Cymru.

Yr Athro Brynley F. Roberts fydd yn traddodi’r ddarlith gyntaf a hynny yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Fawrth 19 Tachwedd 2013 am 5:30.

Yn ogystal â chofnodi cyfraniad un o ysgolheigion disgleiriaf Cymru, bydd y darlithoedd yn gam pwysig yn y gwaith o gryfhau cymuned academaidd cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru.

Fel cyn-Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac un sydd wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Edward Lhyud, roedd yr Athro Brynley Roberts yn ddewis naturiol i agor y gyfres gyda’r testun ‘Ar Drywydd Edward Lhwyd.’

Bydd darlithoedd ar amryfal bynciau yn cael eu traddodi o flwyddyn i flwyddyn. Pwnc cyfoes fydd yn cael sylw’r flwyddyn nesaf, pan fydd yr Athro Siwan Davies o Goleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe ac arbenigwraig ar effeithiau cynhesu byd eang, yn traddodi’r ddarlith.

Meddai’r Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Fel sefydliad academaidd, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio ag ystod o bartneriaid allanol ac yn falch o gyfrif Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn eu plith erbyn hyn. Bydd y ddarlith yn fodd ychwanegol o rannu gwaith ymchwil rhai o’n hacademyddion mwyaf blaenllaw ac edrychwn ymlaen at weld y ddarlith a’r bartneriaeth yn tyfu o nerth i nerth dros y blynyddoedd.’’

Ychwanegodd y Dr Lynn Williams, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’r Gymdeithas yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y gyfres newydd hon o ddarlithoedd blynyddol yn amlygu’r rhagoriaeth ddiamheuol a geir ymhlith ein hacademyddion Cymreig. Mae’n gwbl addas mai un o Gymrodyr y Gymdeithas, yr Athro Brynley Roberts CBE DLitt FLA FLSW, a fydd yn traddodi’r ddarlithgyntaf oll yn y gyfres. Edrychwn ymlaen at noson arbennig eleni a hefyd at ddatblygu’r bartneriaeth ymhellach.”

Lawrlwytho’r Datganiad i’r Wasg yma