SWIEET2007 Darlith Goffa William Menelaus 2013

‘Innovation and Energy: hot topics and cold facts’ 

SWIEET2007 Darlith Goffa William Menelaus

Mewn cydweithrediad â Cymdeithas Ddysegedig Cymru

 

Darlith gan Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS

6.00pm Dydd Llun 25 Mawrth 2013

Darlithfa Birt Acres, Adeilad Bute, Parc Cathays, Caerdydd

 

Gyda chefnogath Prifysgol Caerdydd

___________

 SWIEET2007 Logo

 Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007) 

 

Sefydlwyd y Sefydliad ym 1857 a dyfarnwyd iddo Siarter Corfforiad Brenhinol ym 1881.  Mae’n ymroi i “annog a datblygu Gwyddor ac Ymarfer Peirianneg” ac fe’i “sefydlwyd i hwyluso rhannu gwybodaeth a syniadau ymhlith ei aelodau, a chofnodi canlyniadau profiad”. Drwy gyflawni’r swyddogaethau hyn, chwaraeodd y Sefydliad ei ran yn datblygu gwybodaeth dechnegol, a thrwy ei aelodau unigol, gwnaeth gyfraniadau ymchwil pwysig mewn sawl maes, hyd at 2007. Yn 2007, cytunodd y Sefydliad i ddod â’i swyddogaethau Cymdeithas Ddysgedig i ben, a throsglwyddo ei holl gronfeydd i Ymddiriedolaeth Addysgol. Mae’r Ymddiriedolaeth Addysgol wedi cytuno i barhau â’r Ddarlith a’r Cinio Menelaus fel rhan o’i gweithgareddau. 

 

Bellach mae’r Sefydliad yn gwneud dyfarniadau Bwrsariaeth, teilyngdod a dyfarniadau eraill, i fyfyrwyr unigol ac i sefydliadau addysgol, ac yn gynyddol mae’n canolbwyntio ar “ieuenctid i beirianneg” gan ehangu i weithio mewn ysgolion.