Colocwiwm Cymru UNESCO

Cynhaliwyd Colocwiwm cyntaf Cymru Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU (UKNC) yn Aberystwyth y mis diwethaf ar y thema Cefnogi Effeithlonrwydd a Diwygio UNESCO: Sut gall Cymru Gyfrannu? Daeth y digwyddiad â thua 50 o arbenigwyr annibynnol ynghyd i ddrafod sut i sicrhau cydweithrediad newydd rhwng Cymru ac UNESCO.

Darllenwch adroddiad cryno ar y Colocwiwm yma

Dywedodd yr Athro W John Morgan FLSW, Cadeirydd UKNC,

“Mae’r Colocwiwm yn adeiladu ar draddodiad hir Cymru o ryngwladoliaeth, a bydd yn helpu i gryfhau effeithiolrwydd UNESCO – rydym ni’n falch i adfywio’r berthynas bwysig hon.”

Yr Athro John Morgan gyda Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones


Ymhlith uchafbwyntiau’r digwyddiad roedd prif araith gan Brif Weinidog Cymru y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC a chyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol Gwyddorau Naturiol UNESCO Gretchen Kalonji.

Gretchen Kalonji

Yn ei araith cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru ac UNESCO a meysydd posibl ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

 

“Mae’r Colocwiwm yn gyfle i ymchwilio i ymgysylltiad ehangach rhwng Cymru ac UNESCO – mewn meysydd mor amrywiol â datblygu rhyngwladol, strategaeth wyddonol, datblygu cynaliadwy ac addysg.”

Roedd y Colocwiwm yn gyfle i ddod ag arbenigedd a phrofiad cyfunol at ei gilydd er mwyn canfod ffyrdd newydd, cyfunol i Gymru ail-ymgysylltu â nodau a phrosiectau UNESCO a chanfod gweithgareddau penodol yng Nghymru ac yn deillio o Gymru. Roedd y cynulliad hwn yn rhan o rwydwaith mwy o lawer o weithwyr proffesiynol ledled Cymru sy’n rhan o waith UNESCO. Mae’r rhwydwaith hwn yn amrywiol, gydag arbenigedd yn amrywio o fiosfferau i eiddo diwylliannol.

 

Mae rôl benodol gan UKNC i’w chwarae, gan gynnwys darparu cyngor polisi annibynnol i’r llywodraeth, cefnogi diwygio ac effeithiolrwydd UNESCO a darparu cyngor, cymorth a sicrwydd ansawdd ar gyfer achrediadau ac enwebiadau UNESCO o’r DU. Mae rhwydwaith bywiog, traws-sector o arbenigwyr o fywyd sifil Cymru yn hanfodol ar gyfer gwireddu’r nodau hyn yng Nghymru.

 

Chwith – dde: Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Gretchen Kalonji; Yr Athro John Morgan; Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, Syr John Cadogan, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Trefnwyd y digwyddiad gan UKNC mewn cyswllt â Phrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

 

Ceir oriel Flickr o’r digwyddiad yma