Gwyntyllu a Thrafod Pensaernïaeth Llywodraethu Economaidd Newydd Ewrop
Cynhadledd Hanner Diwrnod Dydd Mercher 2 Mai 2012, 11.00 – 17.00 Ystafelloedd Pwyllgor Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Mae’r gyfres o argyfyngau economaidd ac ariannol sydd wedi amlyncu’r Undeb Ewropeaidd a’i Haelod Wladwriaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi arwain at gyflymu’r broses o ailffurfio cyfeiriad gwleidyddol a sefydliadol Integreiddio Ewropeaidd. Mae cyflwyno’r ‘compact ariannol’ a lofnodwyd gan 25 o Aelod Wladwriaethau ym mis Mawrth 2012 yn adeiladu ar drefniadau sydd eisoes yn bodoli i gyflenwi disgyblaeth ariannol a chydlynu economaidd cryfach o fewn Parth yr Ewro ac Uno Economaidd ac Ariannol ehangach. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i eithrio o’r Cytundeb yn codi cwestiynau pwysig am ei safle o fewn Ewrop sy’n gynyddol aml-gyflymder a’i hymglymiad â’r bensaernïaeth llywodraethu economaidd sy’n datblygu. Ymhellach, mae’r canfyddiad fod y DU yn ail-gofleidio’r statws ‘partner anodd’ oedd ganddi yn y gorffennol yn codi heriau allweddol i nod Llywodraeth Cymru o fod yn ‘bartner gweithredol ac adeiladol’ yn Ewrop. Daw’r gynhadledd hanner diwrnod hwn â siaradwyr o bob rhan o Gymru, y DU ac Ewrop at ei gilydd i drafod safbwyntiau gwahanol o ran ymateb yr Undeb Ewropeaidd i’r argyfyngau economaidd ac ariannol a sefyllfa newidiol y DU a Chymru yn y cyd-destun hwn.
Ceir taflen am y gynhadledd yma.
GWYBODAETH GOFRESTRU
pgr@Cardiff.ac.uk i gofrestru erbyn 2 Mawrth 2012. I gael rhagor o
wybodaeth am y gynhadledd hanner diwrnod cysylltwch ag Ian Stafford (Swyddog Ymchwil): staffordim@cardiff.ac.uk neu ar y ffôn: 029 20 870 325.
Mae Adeilad Morgannwg ym Mharc Cathays I gael gwybodaeth am deithio, ewch i:
http://www.cardiff.ac.uk/locations/maps/index.html