‘Beth yw diben Prifysgolion?’
Symposium undydd ar
Beth yw diben Prifysgolion?’
18 Mai 2011, Ysgol Rheolaeth Caerdydd, UWIC, Llandaf
Mae Prifysgolion yn ganolog i ddatblygiad y byd modern ac yn wynebu disgwyliadau cynyddol – sy’n gwrthdaro weithiau – gan unigolion, busnesau a llywodraethau. Mae gan academyddion, sy’n greawdwyr ac yn warcheidwaid bywyd eu Prifysgolion, eu gofynion, disgwyliadau a dyheadau eu hunain, ar gyfer dysgu, ysgolheictod ac ymchwil. Yn ystod y Symposiwm undydd hwn, y digwyddiad cyntaf dan y thema Prifysgolion, bydd y Gymdeithas yn trafod y cwestiwn allweddol, Beth yw diben Prifysgolion?
Bydd y Symposium yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau o amrywiaeth o bersbectifau gwahanol: diwylliannol, athronyddol a phersonol; y persbectif ysgolheigaidd pur – ymchwil ac ysgolheictod er eu mwyn eu hunain; persbectif y llywodraeth – ei disgwyliadau a’i pholisi ar gyllido a meysydd allweddol eraill; a’r persbectif a ddarperir gan rôl y prifysgolion yn hyrwyddo twf economaidd ac adnewyddu wrth ddiwallu anghenion cyflogwyr.
Ceir taflen yma: Beth yw diben Prifysgolion 2011 a rhaglen yma: Rhaglen.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad bydd:
· David Rosser (CBI Cymru)
· Yr Athro Graham Richards (Prifysgol Rhydychen)
· Yr Athro Sir John Meurig Thomas (Prifysgol Caergrawnt)
· Yr Athro Dai Smith (Prifysgol Abertawe)
ac, yn ogystal cadeirydd yr adolygiad annibynnol diweddar o lywodraethu addysg uwch yng Nghymru
· John McCormick
Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011; gellir ei lawrlwytho yma: Cyflawniad ac Atebolrwydd.