‘The Commercialisation of Science’

Dyfeisio, arloesi a newid :  

 

‘The Commercialisation of Science’

 

 Professor Graham Richards CBE

 Prifysgol Rhydychen

 

6.30yh Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010

 Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

 

Diben prifysgolion yw addysgu ac ymchwilio. Ond mae pwysigrwydd cynyddol i fasnacheiddio technoleg wyddonol. Gellir cyflawni hyn heb amharu ar weithgareddau ac mae’r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus wedi deillio o wyddoniaeth bur. Bydd rhai achosion yn cael eu harchwilio a manteision perthynol cwmnïau deillio a thrwyddedu yn cael eu hystyried. Yn benodol, caiff y modd y mae Adran Cemeg Rhydychen wedi cyfrannu dros £80 miliwn at y Brifysgol ganolog ei ddisgrifio.

 

Addysgwyd Graham Richards yn gyntaf yn Nhregynon ac yna yn y Drenewydd a Phenbedw cyn treulio gyrfa yn Rhydychen, lle bu’n bennaeth yr Adran Cemeg. Mae ei ymchwil ym maes darganfod cyffuriau â chymorth cyfrifiaduron. Ef oedd un o sylfaenwyr y cwmni trosglwyddo technoleg Isis Innovation ac ym 1989 sefydlodd y cwmni deillio modern cyntaf yr oedd gan y Brifysgol ecwiti ynddo, Oxford Molecular Plc. Bellach mae’n uwch gyfarwyddwr anweithredol IP Group Plc sydd wedi sefydlu tua 75 o gwmnïau gyda 15 ohonynt yn gwmnïau cyhoeddus. Mae’n awdur dros 380 o bapurau a 17 o lyfrau ac ymhlith gwobrau eraill fe dderbyniodd Wobr Mullard y Gymdeithas Frenhinol a Gwobr Lloyd o Kilgarran gan y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg er budd cymdeithas. Cafodd ei enwi’n ddiweddar ar restr The Times o 100 gwyddonydd mwyaf dylanwadol Prydain.

 

 

 

Ceir taflen am y ddarlith yma.