The Coldest March of Robert Falcon Scott

Darlith ‘The Coldest March of Robert Falcon Scott’

 Dydd Mawrth 7 Mehefin 2011

6.30pm, Darlithfa Wallace, Prifysgol Caerdydd

Siaradwr: Yr Athro Susan Solomon ForMemRS,  Enillydd Medal Gwyddoniaeth Genedlaethol UDA,  (Prifysgol Colorado Boulder ac Uwch Wyddonydd, Gweinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Genedlaethol, UDA)

 

Darlith yw hon a noddir gan y Gymdeithas fel rhan o’i chyfres Pen-blwyddi, fel un o’r Gyfres Darlithoedd Scott a drefnir gan yr Ysgol Gwyddorau Cefnforol a Daear ym Mhrifysgol Caerdydd, i ddathlu canmlwyddiant taith Captain Scott i Begwn y De.

Bu taith drasig Captain Robert Falcon Scott ym 1911-12 i Begwn y De yn chwedl Antarctig erioed, gyda rhai yn ei hystyried yn saga o wrhydri ac eraill yn ei gweld yn stori sy’n ein rhybuddio am ffolineb dynion. Arweiniodd profiadau’r siaradwr wrth archwilio’r twll oson neilltuol sydd bellach yn ymffurfio yn Antarctica at ddiddordeb mewn defnyddio gwyddoniaeth i ddeall profiadau rhai o’r dynion cyntaf i fforio i’r cyfandir ganrif yn ôl. Gwelir bod Robert Falcon Scott a’i gymheiriaid wedi’u taro ar y ffordd yn ôl o’r Pegwn gan dywydd y gellir gweld iddo fod yn hynod o anarferol. Gan dynnu ar y wyddoniaeth ddiweddaraf ynghyd â’i chyfrol sydd wedi’i chyhoeddi, The Coldest March, bydd yr Athro Solomon yn dadansoddi’r ffeithiau a’r chwedlau am y daith, ac yn cynnig dealltwriaeth newydd am fywyd a marwolaeth Scott a’i gyd-deithwyr arwrol.

Ceir taflen am y ddarlith yma.