Probability and Analysis at the Highest Degree of Non-commutativity
Darlith Ffiniau Gyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru
‘Probability and Analysis at the Highest Degree of
Non-commutativity’
Professor Dan-Virgil Voiculescu,
University of California, Berkeley
Darlithfa Wallace, Prifysgol Caerdydd
5.00 yh., Dydd Llun, 28 Mehefin 2010
Damcaniaeth tebygolrwydd rhydd yw damcaniaeth fathemategol a ddatblygwyd dros y 25 mlynedd diwethaf sy’n disgrifio haprwydd pan fydd diffyg cymudadedd ar ei uchaf. Yn gyflinellol â rhan fawr o debygolrwydd clasurol mae gan y ddamcaniaeth fodelau mewn matricsau hap, algebrâu gweithredwr a chyfuniadedd. Mae pecynnau mathemategol dadansoddi rhydd perthynol wedi dechrau ymddangos.
Dyfarnwyd gwobr NAS 2004 mewn Mathemateg i’r Athro Voiculescu gan Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn UDA am “the theory of free probability, in particular, using random matrices and a new concept of entropy to solve several hitherto intractable problems in von Neumann algebras.” Fe’i hetholwyd i Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn 2006.
Cyfres o ddarlithoedd yw Ffiniau sy’n gwahodd academyddion nodedig i siarad am ffiniau ymchwil a gosod eu cyfraniadau eu hunain yn eu cyd-destun.
I weld adroddiad am yr achlysur, cliciwch yma.
Ceir taflen am y ddarlith yma.