Ynni

Yn wyddonol, mae pob math o ynni yn gyfartal, ond yn wleidyddol mae rhai’n fwy cyfartal na’i gilydd. Mae cynhyrchu a defnyddio ynni yn elfen sylfaenol o fywyd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y rhan fwyaf o wledydd. Problemau ynni yw ffynhonnell technolegau ysbrydoledig a mawreddog, mentrau masnachol enfawr, anghydfodau rhyngwladol chwerw, rhethreg awdurdodol, credoau angerddol a blysgoelio.

Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i drafod pwnc cymhleth a hollbwysig ynni o amrywiaeth o safbwyntiau, gan herio tybiaethau a chredoau â thrylwyredd academaidd a thystiolaeth.

Mae’r Gymdeithas yn croesawu ymholiadau gan unigolion a chyrff yn cynnig cyfraniadau, megis darlithoedd, symposia a digwyddiadau a gweithgareddau eraill, ar y Thema Ynni.

 

Ymhlith darlithoedd Ynni blaenorol a drefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru mae:

‘Sustainable Energy – Without the Hot Air’ gan yr Athro David MacKay (Prifysgol Caergrawnt, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd), ar 31 Mawrth 2011 yng Nghaerdydd