Dyfeisio, Arloesi a Newid

Wrth wraidd ein dealltwriaeth o newid mae’r rhyngweithio rhwng agweddau technegol, masnachol a chymdeithasol technolegau, fel y’i canfyddir yn eang. Mae meddylfryd a gweithredu cyfoes yn troi ar syniadau, safbwyntiau a mythau am ymchwil myfyrgar a nawdd; dyfeisiadau, arloesi a gwelliannau; cynhyrchion a marchnadoedd; polisïau ac ymyriadau llywodraethol; addysg dechnegol ac arferion unigol.

 

Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau a gweithredoedd i archwilio’r elfennau sylfaenol hyn y tu ôl i’r economi fodern.

Mae’r Gymdeithas yn croesawu ymholiadau gan

unigolion a chyrff ynglŷn â chynnig cyfraniadau megis darlithoedd, symposia a digwyddiadau a gweithgareddau eraill ar thema Dyfeisio, Arloesi a Newid.

 

Y darlithoedd blaenorol yn y gyfres Dyfeisio, Arloesi a Newid a drefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yw: 

‘The Commercialisation of Science’ gan yr Athro Graham Richards (Prifysgol Rhydychen), ar 2 Rhagfyr 2010 ym Mhrifysgol Abertawe