Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

 Seiliwyd y meini prawf a fabwysiadwyd ar gyfer ethol Cymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar safonau rhagoriaeth a chyflawniad academaidd ac ar gyfraniadau nodedig i’r byd dysg a ddefnyddir gan gymdeithasau dysgedig eraill sy’n gweithredu mewn ardaloedd eraill.

 Mae Erthyglau Cymdeithasu’r Gymdeithas yn darparu ar gyfer:

·         Cymrodyr Cychwynnol;

·         Cymrodyr;

·         Cymrodyr Er Anrhydedd.

 

Diffinnir Cymrodyr fel “unigolion sy’n preswylio yng Nghymru, unigolion a anwyd yng Nghymru ond sy’n preswylio yn rhywle arall ac eraill sydd â chysylltiad penodol â Chymru; ym mhob achos bydd ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth a chyflawniad mewn un o’r disgyblaethau academaidd, neu os ydynt yn aelodau  o broffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, byddant wedi gwneud cyfraniad nodedig i fyd dysg ”.

Diffinnir Cymrodyr er Anrhydedd fel unigolion “y mae eu rhagoriaeth a’u cyflawniad yn golygu y pennir y byddai eu hethol yn Gymrodyr Er Anrhydedd er budd enw da a gweithgareddau’r Gymdeithas.”

Cynhaliwyd yr etholiad Cymrodyr cyntaf yn ystod 2010/11 yn unol â darpariaethau’r Erthyglau Cymdeithasu a’r Rheoliadau ategol. Ceir rhestr o’r Cymrodyr newydd a etholwyd yma. Bydd etholiadau cymrodyr yn cael eu cynnal yn flynyddol.

Cynhaliwyd yr ail etholiad Cymrodyr yn ystod 2011/12 yn unol â darpariaethau’r Erthyglau Cymdeithasu a’r Rheoliadau ategol. Ceir rhestr o’r Cymrodyr newydd a etholwyd yma.