Lansio Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Lansiwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ystod seremoni a gynhaliwyd yn Theatr Reardon Smith, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ddydd Mawrth 25 Mai 2010, wythnos ar ôl ymgorffori’r Gymdeithas fel Cwmni Cyfyngedig drwy Warant. Cliciwch yma am gopi o Raglen y Lansio.
Croesawyd y Cymrodyr Cychwynnol gan Lywydd y Gymdeithas, Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS a chyn llofnodi Cofrestr y Cymrodyr (a gomisiynwyd gan Wasg Gregynog), fe’u cyflwynwyd i gynulleidfa frwd o westeion gwahoddedig oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymdeithasau dysgedig Prydeinig eraill, sefydliadau addysg uwch o Gymru a thu hwnt, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Traddodwyd anerchiadau croeso gan:
· Yr Athro John Harries FInstP FRMetS, Athro Arsylwi’r Ddaear, Coleg Imperial, Llundain: Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru
· Yr Athro Geoffrey Boulton OBE DSc FGS FRSE FRS, Uwch Gymrawd Athrawol Er Anrhydedd ac Athro Regius Emeritws Daeareg, Prifysgol Caeredin; Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Frenhinol Caeredin
· Syr David Davies CBE DSc FREng FIET FLSW FRS, Cadeirydd, The Hazards Forum; yn flaenorol: Athro Pender a Phennaeth Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol, Coleg y Brifysgol, Llundain; Is-Ganghellor Prifysgol Loughborough; Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, y Weinyddiaeth Amddiffyn; Llywydd, Y Gymdeithas Peirianneg Genedlaethol
· Yr Athro Susan Mendus FLSW FBA, Athro Athroniaeth Wleidyddol, Prifysgol Caerefrog; Is-Lywydd (Gwyddorau Cymdeithasol) yr Academi Brydeinig
· Yr Athro Fonesig Jean Thomas DBE CBE FMedSci FLSW FRS, Meistr, Coleg St Catharine’s ac Athro Biocemeg Facromolecwlaidd, Prifysgol Caergrawnt; Is-Lywydd ac Ysgrifennydd Bioleg y Gymdeithas Frenhinol
· Mr Paul Loveluck CBE JP, Llywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Penllanw’r lansio oedd yr Anerchiad Agoriadol gan Lywydd a Chadeirydd Cyngor y gymdeithas, Syr John Cadogan.
I weld lluniau o’r lansio, cliciwch yma