Datblygu academi genedlaethol

Corff newydd ag iddo uchelgais eang yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhaid i academi genedlaethol ymroi i geisio’r lefelau uchaf o ragoriaeth, a fesurir yn erbyn safonau academaidd rhyngwladol. Mae’r Gymdeithas wedi’i chreu yn ystod cyfnod anodd i’n heconomi a’n cymdeithas. Rhaid i’n cynlluniau ganolbwyntio ar y tymor hir. Fe gymer nifer o flynyddoedd i sefydliad cymhleth fel Cymdeithas Ddysgedig Cymru aeddfedu’n llawn.

Rydym yn croesawu’r sawl sydd â diddordeb i gysylltu â ni i rannu barn, ffurfio partneriaethau a’n helpu i noddi mentrau priodol.

Mae’r wefan hon, fel y Gymdeithas, yn cael ei datblygu’n raddol. Croesawn unrhyw awgrymiadau am syniadau i’w gwella.

Hoffem arddangos delweddau sy’n gysylltiedig ag ysgolheictod ac ymchwil o Gymru ar y safle, a chroesawn unrhyw awgrymiadau a chyflwyniadau.

Ebostiwch:

cddc@cymru.ac.uk