Cenhadaeth ac Amcanion

Cenhadaeth y Gymdeithas yw:

·         dathlu, cydnabod, cadw, gwarchod ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus;

·         hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso canlyniadau ymholiadau ac ymchwil academaidd;

·         gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy’n effeithio ar les Cymru a’i phobl a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Ei Hamcanion yw:

·         hyrwyddo rhagoriaeth a chyraeddiadau academaidd Cymru a rhannu ymchwil a dysg Gymreig yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol;

·         ennyn diddordeb, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o wyddoniaeth, technoleg a meddygaeth ynghyd â’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru;

·         meithrin partneriaethau a chysylltiadau rhwng academia a sectorau eraill cymdeithas gan gynnwys diwydiant a masnach, y proffesiynau, y celfyddydau, gwasanaeth cyhoeddus, ac ysgolion a cholegau, a thrwy hynny hyrwyddo iechyd bywyd deallusol Cymru;

·         cefnogi ymchwil ac arloesi yng Nghymru, o fewn addysg uwch ac yn fwy eang, hybu datblygiad mewn meysydd ymchwil newydd, gan gynnwys ymchwil cymhwysol, amlddisgyblaethol a rhyng-sectoraidd, a chynorthwyo i fasnacheiddio syniadau arloesol sy’n deillio o ymchwil;

·         gweithio gydag addysg uwch yng Nghymru a sectorau perthnasol eraill gan gynnig cefnogaeth gyda’r tasgau hyn;

·         darparu llais cynrychioliadol ac annibynnol i’r holl ddisgyblaethau ysgolheigaidd a darparu fforwm annibynnol ar gyfer trafodaeth wybodus ar bob pwnc gwyddonol, cymdeithasol a diwylliannol;

·         hwyluso cyswllt rhwng gwneuthurwyr polisi yng Nghymru ag ymarferwyr hyddysg mewn amrywiaeth o feysydd, a chynnig cymorth, lle bo’n addas, i ffurfio polisi cenedlaethol, drwy weithredu fel ffynhonnell arbenigol, ddiduedd ac annibynnol o ymholi, tystiolaeth, cyngor a sylwadau ysgolheigaidd;

·         galluogi Cymru i gyfranogi ar y lefel uchaf ym myd rhyngwladol dysg ac ysgolheictod, a hyrwyddo rhagoriaeth a chyraeddiadau academaidd Cymru i’r byd ehangach;

·         sefydlu a chynnal cysylltiadau ag academïau cyffelyb yn y Deyrnas Unedig a thramor.